2014 Rhif 517 (Cy. 60)

anifeiliaid, Cymru

iechyd ANIfeiliaid

iechyd y cyhoedd, CYMRU

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) ac yn dirymu ac yn ail-wneud Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/2377) (Cy. 250) sy’n ymgorffori darpariaethau ynglŷn â staenio sgil-gynhyrchion o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995.

Mae’r Rheoliadau hyn yn parhau i orfodi, yng Nghymru, Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1) (“Rheoliad Rheolaeth yr UE”).

Maent hefyd yn parhau i orfodi, yng Nghymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC o ran samplau ac eitemau penodol sy’n esempt rhag gwiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno (OJ Rhif L 54, 26.2.2011) (“Rheoliad Gweithredu’r UE”).

O dan Reoliad Rheolaeth yr UE mae rhwymedigaethau ar weithredwyr mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys rhwymedigaethau o ran eu gwaredu a’u defnyddio, gwaharddiadau ar eu bwydo, a’u rhoi ar y farchnad. Yn ychwanegol, mae gofynion ar weithredwyr, safleoedd a sefydliadau i gael eu cofrestru neu eu cymeradwyo. Mae’r rhwymedigaethau’n amrywio yn unol â chategori’r deunyddiau; caiff sgil-gynnyrch anifail mewn risg uwch ei gategoreiddio yn ddeunydd Categori 1, y risg nesaf yw deunydd Categori 2 ac yna ddeunydd Categori 3. Mae Rheoliad Gweithredu’r UE yn cydategu gofynion Rheoliad Rheolaeth yr UE.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol.

1)    Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi’n awdurdod cymwys o ran Cymru a gwneir darpariaeth ar gyfer amryw o faterion sy’n cydategu’r gofynion sylfaenol fel y’u nodir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn, gan gynnwys dynodi ardaloedd pellennig a hefyd mynediad mewn perthynas â gwaharddiadau ar fwydo yn Erthygl 11 o Reoliad Rheolaeth yr UE (Rhan 2).

2)    Staenio sgil-gynhyrchion penodol o anifeiliaid i’w hatal rhag mynd i’r gadwyn fwyd, gan ganiatáu i ddarpariaethau tebyg yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 gael eu dirymu (Rhan 3).

3)    Y weithdrefn ac apelau mewn perthynas â chofrestru a chymeradwyo (Rhan 4).

4)    Gorfodi’r gofynion drwy ddarparu ar gyfer troseddau am dorri’r gofynion fel y’u nodir yn y Tabl i Atodlen 1 (Rhan 5). Mae’r Tabl yn nodi gofynion Rheoliad Rheolaeth yr UE fel y’i cydategir gan ofynion Rheoliad Gweithredu’r UE a’r Rheoliadau hyn, pan fônt yn gymwys. Mae Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE yn galluogi’r awdurdod cymwys, sef Gweinidogion Cymru, i roi awdurdodiadau mewn perthynas â’r gofynion hyn. Mae’r awdurdodiadau hyn yn galluogi’r awdurdod cymwys i ddyfarnu a yw cynnyrch yn risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid ai peidio, er enghraifft. Trefnir y bydd rhestr lawn o bob awdurdodiad a ddarperir o dan y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (www.cymru.gov.uk). Yn ychwanegol, bydd y wefan honno hefyd yn trefnu y bydd yr awdurdodiadau a arferir gan Weinidogion Cymru ar gael.

5)    Gorfodi, drwy benodi awdurdodau gorfodi a darparu ar gyfer pwerau gorfodi (Rhan 6).

6)    Darpariaethau canlyniadol (Rhan 7 ac Atodlen 2).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol o ran y Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 517 (Cy. 60)

anifeiliaid, cymru

iechyd ANIfeiliaid

iechyd y cyhoedd, CYMRU

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Gwnaed                                 5 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       7 Mawrth 2014

Yn dod i rym                        28 Mawrth 2014

Cynnwys

RHAN 1

Rhagymadrodd

 

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso                                                                                     

2.       Dehongli                                                                                                                   

 

RHAN 2

Yr awdurdod cymwys a darpariaethau amrywiol

 

3.       Yr awdurdod cymwys                                                                                                

4.       Cyfyngiadau ar fynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid                                                  

5.       Defnyddio gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd                                             

6.       Canolfannau casglu                                                                                                    

7.       Ardaloedd pellennig                                                                                                   

8.       Rhoi ar y farchnad                                                                                                     

9.       Rhoi gwybod am ganlyniadau profion                                                                          

 

RHAN 3

Staenio

 

10.     Staenio                                                                                                                     

 

RHAN 4

Cofrestru a chymeradwyo

 

11.     Y weithdrefn ar gyfer cofrestru safleoedd a sefydliadau                                                 

12.     Hysbysiadau awdurdod cymwys mewn

          perthynas â chofrestru                                                                                                

13.     Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo                                                                              

14.     Hysbysiad mewn perthynas â

          phenderfyniadau ar gymeradwyo                                                                                 

15.     Y rhesymau dros benderfyniadau                                                                                 

16.     Y weithdrefn apelio                                                                                                   

 

RHAN 5

Troseddau a chosbau

 

17.     Cydymffurfio â gofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid                                                   

18.     Rhwystro

19.     Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig   

20.     Cosbau                                                                                                                     

 

RHAN 6

Gorfodi

 

21.     Awdurdod gorfodi                                                                                                     

22.     Person awdurdodedig                                                                                                 

23.     Pwerau mynediad a phwerau ychwanegol                                                                     

24.     Gwarant                                                                                                                    

25.     Hysbysiadau a gyflwynir gan berson

          awdurdodedig                                                                                                            

26.     Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion gorfodi                                                      

 

RHAN 7

Diwygiadau canlyniadol

 

27.     Diwygiadau canlyniadol                                                                                             

 

RHAN 8

Dirymiadau a darpariaeth drosiannol

 

28.     Dirymiadau                                                                                                               

29.     Darpariaeth drosiannol

         

 

         ATODLEN 1  —  Gofynion Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid                                              

         ATODLEN 2  —  Diwygiadau Canlyniadol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd([2]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 (sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC ynglŷn â samplau ac eitemau penodol sy’n esempt rhag gwiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno ([3])) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

RHAN 1

Rhagymadrodd

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2014.

(3) Daw rheoliad 27 ac Atodlen 2 i rym yn union ar ôl i’r rheoliadau eraill a’r atodlen arall ddod i rym.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw person sy’n arfer swyddogaethau o dan reoliad 21(1) neu (2);

ystyr “gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid” (“animal by-product requirement”) yw unrhyw ofyniad yn Rhan 3 ac unrhyw ofyniad yng Ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn fel y’i darllenir gyda’r darpariaethau yng Ngholofn 3 i’r Atodlen honno;

mae “llong” (“ship”) yn cynnwys hofranlong, cwch ymsuddol neu unrhyw gwch arnofiol arall ond nid llestr—

(a)     sy’n gorwedd yn barhaol ar wely’r môr neu sydd ynghlwm yn barhaol wrth wely’r môr; neu

(b)     sy’n osodiad o fewn adran 16 o Ddeddf Ynni 2008([4]);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

(a)     unrhyw dir, adeilad, sied neu loc;

(b)     unrhyw ddaliedydd neu gynhwysydd;

(c)     unrhyw long; neu

(d)     cerbyd o unrhyw ddisgrifiad;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 22;

ystyr “Rheoliad Gweithredu’r UE” (“EU Implementing Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC ynglŷn â samplau ac eitemau penodol sy’n esempt rhag gwiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

ystyr “Rheoliad Rheolaeth yr UE” (“EU Control Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n dirymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid)([5]).

(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliad Rheolaeth yr UE neu yn Rheoliad Gweithredu’r UE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Rheolaeth yr UE neu yn Rheoliad Gweithredu’r UE.

RHAN 2

Yr awdurdod cymwys a darpariaethau amrywiol

Yr awdurdod cymwys

3. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE.

Cyfyngiadau ar fynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid

4.—(1) Rhaid peidio â mynd â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys gwastraff arlwyo, i unrhyw fangre pe bai gan anifeiliaid a ffermir fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid o’r fath.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, ac eithrio—

(a)     cynhyrchion sy’n dod o wastraff arlwyo; neu

(b)     blawd cig ac esgyrn sy’n dod o ddeunydd Categori 2 a phroteinau anifeiliaid wedi eu prosesu y bwriedir eu defnyddio fel gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd neu eu defnyddio ynddynt, nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 32(1)(d) (rhoi ar y farchnad a defnyddio) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

(3) Rhaid i gorff neu ran o gorff unrhyw anifail a ffermir na chafodd ei gigydda i’w fwyta gan bobl gael eu cadw gan weithredwr, hyd nes y’u traddodir neu y’u gwaredir, yn y fath fodd a fydd yn sicrhau na fydd unrhyw anifail neu aderyn yn gallu cael mynediad at y corff neu’r rhan o gorff.

Defnyddio gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd

5.—(1) Os defnyddir gwrteithiau organig neu ddeunyddiau i wella pridd ar dir, ni chaiff neb ganiatáu i foch gael mynediad at y tir hwnnw na chael eu bwydo â phorfa wedi ei thorri oddi ar y tir hwnnw am gyfnod o 60 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y defnyddir y gwrteithiau organig neu’r deunyddiau i wella pridd.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r gwrteithiau organig na’r deunyddiau i wella pridd a ganlyn—

(a)     tail;

(b)     llaeth;

(c)     cynhyrchion yn seiliedig ar laeth;

(d)     cynhyrchion sy’n dod o laeth;

(e)     llaeth tor;

(f)      cynhyrchion o laeth tor; neu

(g)     cynnwys y llwybr treulio.

Canolfannau casglu

6. Mae safle prosesu ar gyfer deunydd Categori 2 a gymeradwywyd at ddibenion bod yn ganolfan gasglu ar gyfer deunydd Categori 2 wedi ei awdurdodi’n ganolfan gasglu.

Ardaloedd pellennig

7.  Mae’r ardaloedd a ganlyn yn ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 19(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE (casglu, cludo a gwaredu)—

(a)     Ynys Enlli;

(b)     Ynys Byr;

(c)     Ynys Dewi; a

(d)     Ynys Echni.

Rhoi ar y farchnad

8. Mae rhoi ar y farchnad wlân sydd heb ei drin a blew sydd heb ei drin o ffermydd neu o sefydliadau neu safleoedd wedi ei awdurdodi ac eithrio pan fônt yn peri risg o unrhyw glefyd trosglwyddadwy drwy’r cynhyrchion hynny i fodau dynol neu i anifeiliaid.

Rhoi gwybod am ganlyniadau profion

9. Rhaid i weithredwyr roi gwybod i Weinidogion Cymru am ganlyniadau unrhyw brofion a gynhelir yn unol ag unrhyw rai o’r Erthyglau a ganlyn yn Rheoliad Gweithredu’r UE sy’n methu â bodloni’r safonau y mae’r Erthyglau hynny’n gofyn amdanynt—

(a)     Erthygl 10(1) (gofynion ynglŷn â thrawsffurfio sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn fionwy a chompostio);

(b)     Erthygl 21(1) (prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad i’w bwydo i anifeiliaid a ffermir);

(c)     Erthygl 22(1) (rhoi gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd ar y farchnad a’u defnyddio); a

(d)     Erthygl 24(3) (bwyd anifeiliaid anwes a chynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid).

RHAN 3

Staenio

Staenio

10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr y canlynol—

(a)     lladd-dai;

(b)     safleoedd torri;

(c)     sefydliadau trin anifeiliaid hela; a

(d)     storfeydd oer.

(2) Yn y rhan hon—

(a)     mae i’r termau “lladd-dy”, “safle torri” a “sefydliad trin anifeiliaid hela” yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 5(6) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([6]);

(b)     ystyr “storfa oer” yw unrhyw fangre arall a ddefnyddir i storio cig ffres y bwriedir ei werthu i bobl ei fwyta, o dan amodau lle rheolir y tymheredd.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i weithredwyr fynd ati’n ddi-oed i staenio’r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ganlyn yn unol â pharagraff (4)—

(a)     sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddiffinnir gan unrhyw rai o’r erthyglau a ganlyn yn Rheoliad Rheolaeth yr UE—

                           (i)    Erthygl 8(c);

                         (ii)    Erthygl 8(d);

                       (iii)    Erthygl 9(c); neu

                        (iv)    Erthygl 9(d);

(b)     cyrff cyfan dofednod pan fo’r anifeiliaid yn farw wrth gyrraedd y lladd-dy;

(c)     cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sy’n anaddas i’w bwyta gan bobl am eu bod yn dangos arwyddion clefyd a all gael ei drosglwyddo i fodau dynol neu anifeiliaid;

(d)     cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sy’n anaddas i’w bwyta gan bobl am nad ydynt wedi eu cyflwyno i’w harolygu naill ai ante mortem neu post mortem;

(e)     cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sydd wedi eu halogi ag unrhyw sylwedd a all beri bygythiad i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; ac

(f)      deunydd Categori 3 sydd wedi newid drwy ddadelfennu neu drwy gael ei ddifetha nes ei fod yn peri risg annerbyniol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

(4) Rhaid i weithredwyr—

(a)     staenio’r deunydd a restrwyd ym mharagraff (3) ag asiant lliwio a chan defnyddio toddiant o’r cyfryw gryfder sy’n sicrhau bod y staenio’n glir i’w weld ac yn parhau’n weladwy ar ôl i’r sgil-gynnyrch anifeiliaid gael ei oeri neu ei rewi;

(b)     gosod y staen ar arwyneb cyfan y sgil-gynnyrch, boed drwy drochi’r sgil-gynnyrch yn y staen, ei chwistrellu â’r toddiant neu osod y toddiant arno drwy unrhyw ddull sydd yr un mor effeithiol;

(c)     yn achos sgil-gynnyrch anifeiliaid nad yw’n dod o fewn paragraff (3) ac sy’n pwyso mwy nag 20 kg, gosod y staen ar ôl i’w arwyneb gael ei agor gan doriadau niferus a dwfn; a

(d)     yn achos sgil-gynnyrch anifeiliaid sy’n gorff cyfan dofedn, p’un a yw wedi ei ddiberfeddu neu wedi ei bluo ai peidio, gosod y staen ar ôl i arwyneb y corff gael ei agor gan doriadau niferus a dwfn.

(5) Nid oes angen i weithredwyr staenio yn unol â pharagraff (3)—

(a)     unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a symudir, neu y bwriedir iddo gael ei symud, oddi ar unrhyw fangre gan filfeddyg neu o dan awdurdod milfeddyg i’w archwilio gan y milfeddyg neu ar ei ran;

(b)     unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a gymysgir ag offal gwyrdd mewn cynhwysydd sy’n cynnwys yn bennaf offal gwyrdd i’w waredu yn unol â Rheoliad Rheolaeth yr UE;

(c)     unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion gwyddonol ac a osodir, hyd nes ei ddefnyddio neu ei symud i fangre i’w ddefnyddio felly yn unol â Rheoliad Rheolaeth yr UE, mewn ystafell ac mewn daliedydd a ddyluniwyd i ddal sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sydd â hysbysiad arno fod ei gynnwys wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio at ddibenion gwyddonol;

(d)     unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a symudir ar unwaith ar ôl ei gynhyrchu i sefydliad neu safle prosesu, neu sefydliad neu safle llosgi, a gymeradwywyd o dan Reoliad Rheolaeth yr UE drwy bibell sydd wedi’i selio ac sy’n ddiogel rhag gollyngiadau; neu

(e)     corff cyfan anifail, ac eithrio corff cyfan dofedn.

(6) Ni chaiff neb allforio deunydd wedi ei staenio o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i Aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod yr Aelod-wladwriaeth honno’n cytuno i fewnforio’r deunydd.

(7) Ym mharagraff (5)(b) o’r rheoliad hwn ystyr “offal gwyrdd” yw stumog a pherfeddion anifail a chynnwys y llwybr treulio.

RHAN 4

Cofrestru a chymeradwyo

Y weithdrefn ar gyfer cofrestru safleoedd a sefydliadau

11.  Rhaid i hysbysiad i’r awdurdod cymwys gael ei wneud mewn ysgrifen, pan fo’n cael ei wneud—

(a)     gyda’r bwriad o gofrestru yn unol ag Erthygl 23(1) (cofrestru gweithredwyr, sefydliadau neu safleoedd) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

(b)     er mwyn hysbysu’r awdurdod am newidiadau yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Rheoliad hwnnw.

Hysbysiadau awdurdod cymwys mewn perthynas â chofrestru

12. Rhaid i’r awdurdod cymwys roi hysbysiad ysgrifenedig i’r canlynol—

(a)     y gweithredwr sydd wedi hysbysu yn unol â rheoliad 11, am y canlynol—

                           (i)    bod y gweithredwr wedi ei gofrestru; neu

                         (ii)    y penderfyniad i beidio â chofrestru’r gweithredwr;

(b)     gweithredwr cofrestredig, am y canlynol—

                           (i)    gwaharddiad a wnaed o dan Erthygl 46(2) (gwaharddiad ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                         (ii)    gofyniad i gydymffurfio ag Erthygl 23(1)(b) neu (2) o Reoliad Rheolaeth yr UE (gwybodaeth am weithgareddau a’r wybodaeth ddiweddaraf); neu

                       (iii)    bod y cofrestriad wedi ei ddiwygio neu wedi ei ddiweddu pan fo gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod cymwys bod sefydliad wedi ei gau yn unol ag Erthygl 23(2) (yr wybodaeth ddiweddaraf) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo

13. Rhaid i weithredwyr y mae Erthygl 24(1) (cymeradwyo sefydliadau neu safleoedd) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys iddynt, wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod cymwys i gael cymeradwyaeth, gan gynnwys cymeradwyaeth ar ôl cael cymeradwyaeth dros dro pan fo Erthygl 33 o Reoliad Gweithredu’r UE (ailgymeradwyo safleoedd a sefydliadau ar ôl rhoi cymeradwyaeth dros dro) yn gymwys.

Hysbysiad mewn perthynas â phenderfyniadau ar gymeradwyo

14. Rhaid i’r awdurdod cymwys roi hysbysiad ysgrifenedig i’r canlynol—

(a)     y ceisydd am gymeradwyaeth, am y canlynol—

                           (i)    bod cymeradwyaeth wedi ei rhoi yn unol ag Erthyglau 24 (cymeradwyo) a 44 (y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                         (ii)    bod cymeradwyaeth amodol wedi ei rhoi yn unol ag Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE, neu fod y gymeradwyaeth honno wedi ei hestyn yn unol ag Erthygl 44; neu

                       (iii)    y gwrthodwyd rhoi cymeradwyaeth mewn perthynas â chais cychwynnol neu estyniad;

(b)     gweithredwr safle neu sefydliad sydd o dan gymeradwyaeth amodol a roddwyd yn unol ag Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE, am y canlynol—

                           (i)    bod cymeradwyaeth lawn wedi ei rhoi;

                         (ii)    bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hestyn;

                       (iii)    bod amodau wedi eu gosod yn unol ag Erthygl 46(1)(c) (ataliadau dros dro, tynnu’n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                        (iv)    bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hatal dros dro yn unol ag Erthygl 46(1)(a) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                          (v)    bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei thynnu’n ôl yn unol ag Erthygl 46(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                        (vi)    bod gwaharddiad wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 46(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

                      (vii)    y gwrthodwyd estyn cymeradwyaeth lawn neu roi cymeradwyaeth lawn;

(c)     gweithredwr safle neu sefydliad a gymeradwywyd, am y canlynol—

                           (i)    bod amodau wedi eu gosod yn unol ag Erthygl 46(1)(c) o Reoliad Rheolaeth yr UE (atal dros dro, tynnu’n ôl);

                         (ii)    bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hatal dros dro yn unol ag Erthygl 46(1)(a) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

                       (iii)    bod gwaharddiad wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 46(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

                        (iv)    bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei thynnu’n ôl yn unol ag Erthygl 46(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

Y rhesymau dros benderfyniadau

15.—(1) Pan fo’r awdurdod cymwys yn gwneud penderfyniad ac yn hysbysu yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 14, rhaid i’r awdurdod cymwys roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad hwnnw.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i benderfyniadau a hysbysir o dan—

(a)     rheoliad 12(a)(i);

(b)     rheoliad 14(a)(i); neu

(c)     rheoliad 14(b)(i) neu (ii).

Y weithdrefn apelio

16.—(1) Pan fo’r awdurdod cymwys wedi rhoi hysbysiad y mae rheoliad 15(1) yn gymwys iddo, caiff person apelio yn ei erbyn drwy wneud sylwadau ysgrifenedig, o fewn 21 diwrnod o ddyroddi’r hysbysiad am y penderfyniad hwnnw, i berson a benodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru.

(2) Caiff yr awdurdod cymwys hefyd wneud sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig ynglŷn â’r penderfyniad.

(3) Rhaid wedyn i’r person penodedig gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ddyfarniad terfynol Gweinidogion Cymru a’r rhesymau drosto.

RHAN 5

Troseddau a chosbau

Cydymffurfio â gofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid

17. Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cyflawni trosedd.

Rhwystro

18. Mae’n drosedd—

(a)     rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol;

(b)     methu â rhoi unrhyw wybodaeth neu gymorth i berson awdurdodedig neu fethu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae’n rhesymol i berson o’r fath ofyn amdanynt, a hynny heb achos rhesymol;

(c)     rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i berson awdurdodedig yn fwriadol neu’n ddi-hid; neu

(d)     methu â dangos cofnod neu ddogfen pan fo person awdurdodedig yn gofyn amdanynt.

Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig

19.—(1) Pan fo—

(a)     trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol neu gan bartneriaeth neu gan bartneriaeth Albanaidd neu gan gymdeithas anghorfforedig arall; a

(b)     y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unigolyn perthnasol, neu ei bod i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unigolyn perthnasol (gan gynnwys unigolyn sy’n honni ei fod yn gweithredu yn swyddogaeth unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth, y bartneriaeth Albanaidd neu’r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac mae’n agored i achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” yw—

(a)     o ran corff corfforaethol—

                           (i)    cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

                         (ii)    pan fo materion y corff yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod;

(b)     o ran partneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;

(c)     o ran cymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4) At ddibenion achos yn unol â pharagraff (3) mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)     rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau;

(b)     adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925([7]); ac

(c)     Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980([8]).

(5) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

Cosbau

20. Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)     ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)     ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

RHAN 6

Gorfodi

Awdurdod gorfodi

21.—(1) Gorfodir rheoliad 10—

(a)     o ran unrhyw ladd-dy, safle torri neu sefydliad sy’n trafod anifeiliaid hela, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a

(b)     o ran unrhyw fangre arall, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod lleol y lleolir y fangre yn ei ardal.

(2) Fel arall gorfodir y Rheoliadau hyn—

(a)     gan yr awdurdod lleol perthnasol;

(b)     gan yr awdurdod iechyd porthladd o ran dosbarth iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984([9]); neu

(c)     gan Weinidogion Cymru o ran sefydliad hylendid bwyd.

(3) Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru’n cyfarwyddo bod y ddyletswydd orfodi i’w harfer mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol gan Weinidogion Cymru.

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. 

(5) Ym mharagraff (2)(c) ystyr “sefydliad hylendid bwyd” yw sefydliad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([10]) y mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd swyddogaethau gorfodi mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny.

Person awdurdodedig

22. Caiff awdurdod gorfodi awdurdodi’n ysgrifenedig unrhyw bersonau y mae’r awdurdod o’r farn eu bod yn briodol i weithredu er mwyn gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad a phwerau ychwanegol

23.—(1) Caiff person awdurdodedig, drwy ddangos awdurdod y person hwnnw os gofynnir amdano er mwyn gorfodi’r Rheoliadau hyn, Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE—

(a)     mynd i mewn i fangre a’i harolygu (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd) ar unrhyw adeg resymol;

(b)     mynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer neu ddeunyddiau y mae eu hangen;

(c)     gwneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae eu hangen;

(d)     cyfarwyddo gadael y fangre, neu ran ohoni, heb aflonyddu arni (p’un ai’n gyffredinol ynteu mewn agweddau penodol) am ba amser bynnag sy’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(e)     cymryd unrhyw fesurau a thynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw gofnodion y bernir eu bod yn angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(f)      yn achos unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir yn y fangre neu arni—

                           (i)    cymryd samplau;

                         (ii)    eu profi neu eu gwneud yn destun unrhyw broses, pan fo’n ymddangos eu bod wedi peri niwed neu’n debygol o beri niwed i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu blanhigion;

                       (iii)    cymryd meddiant ohonynt a’u cadw cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(aa)        i’w harchwilio ac i arfer y pŵer ym mharagraff (ii);

(bb)       i sicrhau nad ymyrrir â hwy cyn i’r archwiliad arnynt gael ei gwblhau; ac

(cc)        i sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn;

(g)     ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion y mae’n angenrheidiol eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) gael eu dangos neu, pan fo’r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, i ddetholiad o’r cofnodion gael ei ddangos, ac arolygu a chymryd copïau o’r cofnodion hynny, neu o unrhyw gofnod ynddynt;

(h)     ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau a chymorth mewn perthynas ag unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy ag sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r person awdurdodedig i arfer unrhyw rai o’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn; neu

(i)      marcio unrhyw anifail neu sgil-gynnyrch anifeiliaid y mae’r person awdurdodedig o’r farn ei fod yn angenrheidiol.

(2) Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd cyn i’r person awdurdodedig fynd yno.

(3) Caniateir i berson awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae o’r farn eu bod yn angenrheidiol gydag ef.

(4) Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(ii), rhaid i’r person awdurdodedig—

(a)     os gofynnir hynny gan berson sy’n bresennol ar y pryd ac y mae ganddo gyfrifoldebau mewn perthynas â’r fangre honno, beri bod unrhyw beth sydd i’w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw yn cael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw;

(b)     ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r person awdurdodedig eu bod yn briodol er mwyn canfod pa beryglon, os oes rhai, a allai ddigwydd wrth wneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

(5) Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(iii), rhaid i’r person awdurdodedig, os yw’n ymarferol gwneud hynny, gymryd sampl o’r eitem neu’r sylwedd a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o’r sampl wedi ei marcio mewn dull sy’n ddigonol i’w hadnabod.

(6) Pan fo person awdurdodedig yn arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(iii), rhaid i’r person awdurdodedig adael hysbysiad sy’n rhoi manylion am yr eitem neu’r sylwedd sy’n ddigonol i ddynodi beth ydyw ac yn datgan bod meddiant wedi ei gymryd ohoni neu ohono, naill ai—

(a)     gyda pherson cyfrifol; neu

(b)     os nad yw hynny’n ymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg yn y fangre honno.

(7) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai hawl gan y person hwnnw i’w dal yn ôl rhag ei dangos ar sail braint broffesiynol gyfreithiol o dan orchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.

Gwarant

24.—(1) Os bydd ynad heddwch, mewn perthynas â’r pŵer i fynd i mewn i fangre o dan reoliad 23, drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)     wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod unrhyw wybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i’r archwiliad neu’r ymchwiliad o dan reoliad 23(1)(c) ar unrhyw fangre o’r fath; a

(b)     wedi ei fodloni—

                           (i)    bod mynediad i’r fangre honno wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd; neu

                         (ii)    y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy ddefnyddio grym os yw hynny’n angenrheidiol.

(2) Os bydd ynad heddwch, mewn perthynas â mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd, drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)     wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod gwybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i archwiliad neu ymchwiliad at ddibenion gorfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE, Rheoliad Gweithredu’r UE neu’r Rheoliadau hyn mewn mangre o’r fath; a

(b)     wedi ei fodloni—

                           (i)    bod mynediad i’r fangre honno wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd; neu

                         (ii)    y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre honno, drwy ddefnyddio grym os yw hynny’n angenrheidiol, a’i harolygu.

(3) Pan fo person awdurdodedig wedi ei awdurdodi o dan baragraff (2) i fynd i mewn drwy warant, bydd gan y person awdurdodedig y pwerau a roddir gan reoliad 23(1)(b) i (i).

Hysbysiadau a gyflwynir gan berson awdurdodedig

25.—(1) Caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) pan fo’r person hwnnw—

(a)     o’r farn bod gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid wedi ei dorri, neu fod methiant i gydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu

(b)     yn rhesymol yn amau, o ganlyniad i dorri’r gofyniad hwnnw neu fethu â chydymffurfio ag ef, fod mangre yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.

(2) Caniateir i hysbysiadau gael eu cyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre, neu i’r person sydd â gofal neu gyfrifoldeb dros y fangre neu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid—

(a)     yn ei gwneud yn ofynnol i’r canlynol gael eu gwaredu ac, os yw’n gymwys, eu storio cyn eu gwaredu—

                           (i)    sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid;

                         (ii)    deunydd mewn mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi;

(b)     yn ei gwneud yn ofynnol i fangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi gael ei glanhau a’i diheintio ac, os yw’n gymwys, yn pennu’r dull ar gyfer y glanhau a’r diheintio hwnnw;

(c)     yn gwahardd sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid—

                           (i)    rhag cael eu symud neu eu cludo i fangre;

                         (ii)    rhag cael eu symud neu eu cludo i fangre oni wneir hynny yn unol ag amodau a bennir yn yr hysbysiad, gan gynnwys amod ynglŷn â chwblhau’n foddhaol y glanhau a’r diheintio yn unol â hysbysiad fel y darperir yn is-baragraff (b).

(3) Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff person awdurdodedig drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.

(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Erthygl 46(1)(a) neu (b) (ataliadau dros dro, tynnu’n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys.

(5) Mae unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy’n fwriadol yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaethau’r hysbysiad hwnnw yn euog o drosedd.

Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion gorfodi

26.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth y mae awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig yn ei chael wrth orfodi’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff y person hwnnw ddatgelu’r wybodaeth i unrhyw awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig cyffelyb (a benodwyd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig i orfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE) at ddibenion eu rôl orfodi.

RHAN 7

Diwygiadau canlyniadol

Diwygiadau canlyniadol

27. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol.

RHAN 8

Dirymiadau a darpariaeth drosiannol

Dirymiadau

28. Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2002([11]);

(b)     Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003([12]);

(c)     Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003([13]);

(d)     Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011([14]);

(e)     o ran Cymru—

                           (i)    Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995([15]);

                         (ii)    Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) 1997([16]).

Darpariaeth drosiannol

29.—(1) Mae casglu, cludo a gwaredu deunydd Categori 3 yn Erthygl 10(f) o Reoliad Rheolaeth yr UE (deunydd Categori 3) wedi ei awdurdodi ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014, pan fo gofynion paragraff (2) wedi eu bodloni.

(2) Y gofynion yw—

(a)     bod y deunydd yn bodloni Erthygl 36(3) o Reoliad Gweithredu’r UE a pharagraffau (a) i (c) o Bennod IV o Atodiad IV iddo; a

(b)     bod y dull o waredu’r deunydd hwnnw, yn ychwanegol at y dull yn Erthygl 14 o Reoliad Rheolaeth yr UE (gwaredu a defnyddio deunydd Categori 3), yn gwaredu—

                           (i)    mewn safle tirlenwi awdurdodedig heb brosesu ymlaen llaw; neu

                         (ii)    pan fo Erthygl 21 o Reoliad Rheolaeth yr UE wedi ei bodloni, i safle bionwy neu safle compostio ar gyfer trawsffurfio yn unol ag awdurdodiad o dan baragraff 2 o Adran 2 o Bennod III o Atodiad V i Reoliad Gweithredu’r UE.

 

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

5 Mawrth 2014

                    ATODLEN 1        Rheoliad 2

Gofynion Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid

 

Pwnc y gofyniad

Darpariaethau sy’n cynnwys y gofyniad sylfaenol

Darpariaethau i’w darllen ynghyd â’r ddarpariaeth

(neu’r darpariaethau) a

grybwyllir yng Ngholofn 2

1.  Rhwymedigaeth gyffredinol

 

Erthygl 4(1) a (2) o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

Erthygl 3 o Reoliad Gweithredu’r UE

2. Cyfyngiadau cyffredinol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid

Erthygl 6(1) o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthygl 4 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

 

 

3. Cyfyngiadau ar ddefnyddio at ddibenion bwydo

 

Erthygl 11 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Rheoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn ac Erthygl 5 o Reoliad Gweithredu’r UE

4. Cyfyngiadau ar fynediad at gyrff

Erthyglau 12, 13 a 21(1) o Reoliad Rheolaeth yr UE

Rheoliad 4(3) o’r Rheoliadau hyn

 

 

 

5. Gwaredu a defnyddio deunydd Categori 1

Erthygl 12 o Reoliad Rheolaeth yr UE, yn ddarostyngedig i Erthygl 16(b) i (e) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

Erthyglau 6(3) i (5), 8(1), 9(b) ac (c), 11(2), 12(2) a 15 o Reoliad Gweithredu’r UE

6. Gwaredu a defnyddio deunydd Categori 2

Erthygl 13 o Reoliad Rheolaeth yr UE, yn ddarostyngedig i Erthyglau 15(2)(b) ac 16(b) i (f) ac (h) o’r Rheoliad hwnnw

 

Rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 6(3) i (5), 8(1), 9(b) ac (c), 10(1), 11(2), 12(2), 13(1) a 15 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

7. Gwaredu a defnyddio deunydd Categori 3

Erthygl 14 o Reoliad Rheolaeth yr UE, yn ddarostyngedig i Erthygl 16(b) i (h) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r UE

Rheoliad 29 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 6(3) i (5), 8(1), 9(b) ac (c), 10(1), 11(2), 12(2), 13(2), 15 a 36(3) o Reoliad Gweithredu’r UE

 

8. Casglu ac adnabod o ran categori a chludo

 

Erthygl 21(1) i (4) o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthygl 17 o Reoliad Gweithredu’r UE

9. Gallu olrhain

 

Erthygl 22(1) a (2) o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthygl 17 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

10. Cofrestru gweithredwyr, sefydliadau a safleoedd

 

Erthyglau 23(1) a (2) a 55 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Rheoliad 11 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 20(1) a (2) a 32(7) o Reoliad Gweithredu’r UE

 

11. Cymeradwyo sefydliadau a safleoedd

Erthyglau 24, 44(3) a 55 o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

Rheoliad 13 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 19, 32(7) a 33 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

12. Gofynion hylendid cyffredinol

 

Erthygl 25 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthyglau 9(a), 19 ac 20 o Reoliad Gweithredu’r UE

13. Trafod sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn busnesau bwyd

 

Erthygl 26 o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

14. Eu gwiriadau eu hunain

 

Erthygl 28 o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

 

15. Dadansoddi peryglon a mannau rheoli allweddol

 

Erthygl 29(1) i (3) o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

16. Rhoi ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’w bwydo i anifeiliaid a

ffermir ac eithrio anifeiliaid ffwr

 

Erthygl 31(1) o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthyglau 21 a 24(2) o Reoliad Gweithredu’r UE

17. Rhoi ar y farchnad a defnyddio gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd

 

Erthygl 32(1) a (2) o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

Rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 22(1) i (3) a 36(1) o Reoliad Gweithredu’r UE

 

18. Casglu a symud ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

 

Erthygl 34 o Reoliad Rheolaeth yr UE ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnforion

 

Erthygl 33 o Reoliad Rheolaeth yr UE ac Erthygl 23 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

19. Gwahardd defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion nad ydynt o fewn Erthygl 33 neu 36 o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

Erthygl 24(1) o Reoliad Gweithredu’r UE

Erthyglau 33 a 36 o Reoliad Rheolaeth yr UE

20. Rhoi bwyd anifeiliaid anwes ar y farchnad

 

Erthygl 35 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthyglau 3 a 24(3) o Reoliad Gweithredu’r UE

 

21. Rhoi ar y farchnad gynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid

 

Erthygl 36 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 3 a 24(1), (2) a (4) o Reoliad Gweithredu’r UE

 

 

22. Cyrchu diogel

 

 

Erthygl 37(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

 

23. Allforio

Erthygl 43 o Reoliad Rheolaeth yr UE

 

 

24. Rheolaethau ar gyfer anfon

Erthygl 48 o Reoliad Rheolaeth yr UE

Erthyglau 11(3), 12(3) a 31 o Reoliad Gweithredu’r UE

 

25. Cydymffurfio â safonau gweithredu

Erthyglau 10(1), 21(1), 22(1) a 24(3) o Reoliad Gweithredu’r UE

Rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn

                    ATODLEN 2       Rheoliad 27

Diwygiadau Canlyniadol

Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006

1.—(1) Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006([17]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 3(1), ar ôl y diffiniad o “public highway” mewnosoder—

“Regulation (EC) No. 1069/2009” means Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and repealing Regulation (EC) No. 1774/2002 (Animal by-products Regulation);

“Regulation (EU) No. 142/2011” means Commission Regulation (EU) No. 142/2011 implementing Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and implementing Council Directive 97/78/EC as regards certain samples and items exempt from veterinary checks at the border under that Directive;.

(3) Yn erthygl 26, yn lle paragraff (2)(b) rhodder “for treatment of such material from a slaughterhouse or border inspection post in accordance with Articles 15 and 32 of Regulation (EC) No. 1069/2009 and Articles 10 and 22 of and Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011 and under the authority of a licence granted by the National Assembly.” 

(4) Yn erthygl 27 yn lle paragraff (2)(c) rhodder “the National Assembly grants a licence authorising any such item to be removed from the premises to be treated in accordance with Regulation (EC) No. 1069/2009 following which any such item may then be removed and treated in that way and in accordance with the conditions of that licence.”

(5) Yn Atodlen 4—

(a)     yn lle paragraff 20(4), rhodder “The occupier of premises to which dung or manure is transported by authority of a licence granted under sub-paragraph (3) must ensure that it is treated in accordance with Articles 15 and 32 of Regulation (EC) No. 1069/2009 and Articles 10 and 22 of and Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011.”;

(b)     yn lle paragraff 33(4), rhodder “The occupier of any premises to which dung or manure is transported by authority of a licence granted under sub-paragraph (3) must ensure that it is treated in accordance with Articles 15 and 32 of Regulation (EC) No. 1069/2009 and Articles 10 and 22 of and Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011.”.

(6) Yn Atodlen 5—

(a)     yn lle paragraff 2, rhodder “Hides and skins fall within this paragraph if they comply with the requirements in Article 36 of Regulation (EC) No. 1069/2009 and point 28(c) and (d) of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011.”;

(b)     yn lle paragraff 3, rhodder “Wool, ruminant hair and pig bristles fall within this paragraph if they comply with the requirements of Article 36 of Regulation (EC) No. 1069/2009 and Article 24(4) of Regulation (EU) No. 142/2011”;

(c)     yn lle paragraff 5, rhodder “Blood and blood products of susceptible animals fall within this paragraph if they are used for technical purposes (including pharmaceuticals, in vitro diagnostics and laboratory reagents) and have undergone any of the treatments referred to in point 2(b)(ii) of Chapter IV of Annex XIII to Regulation No. 142/2011”;

(d)     yn lle paragraff 6, rhodder “Lard and rendered fats fall within this paragraph if they have undergone the heat treatment referred to in point 3(d) of Chapter I of Annex XIV to Regulation (EU) No. 142/2011”;

(e)     yn lle paragraff 7, rhodder “Petfood and dog chews fall within this paragraph if they comply with Chapter II of Annex XIII to Regulation (EU) No. 142/2011”; ac

(f)      yn lle paragraff 8, rhodder “Game trophies of ungulates fall within this paragraph if they comply with the requirements of Chapter VI of Annex XIII to Regulation (EU) No. 142/2011”.

Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

2. Yn lle paragraff 18(4) o’r Atodlen i Reoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006([18]) rhodder—

(4) Rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y cludir tail neu wrtaith iddi gan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (3) sicrhau ei fod yn cael ei drin yn unol â’r canlynol—

(a)   Erthyglau 15 a 32 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor; a

(b)  Erthyglau 10 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 ac Adran 2 o Bennod I o Atodiad XI iddo sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006

3.—(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006([19]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2—

(a)     yn lle’r diffiniad o “bird by-product”, rhodder ““bird by-product” means entire bodies or parts of birds or products of avian origin, not intended for human consumption, included in Articles 8, 9 or 10 of Regulation (EC) No. 1069/2009;”

(b)     ar ôl y diffiniad o “protection zone” mewnosoder—

“Regulation (EC) No. 1069/2009” means Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and repealing Regulation (EC) No. 1774/2002 (Animal by-products Regulation);; ac

(c)     ar ôl y diffiniad a fewnosodir gan baragraff (b) mewnosoder—

“Regulation (EU) No. 142/2011” means Commission Regulation (EU) No. 142/2011 implementing Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and implementing Council Directive 97/78/EC as regards certain samples and items exempt from veterinary checks at the border under that Directive;.

(3) Yn erthygl 3(6), yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) the following plants if approved under Article 24 of Regulation (EC) No. 1069/2009—

                       (i)  incineration plants;

                      (ii)  co-incineration plants;

                     (iii)  processing plants;

                     (iv)  biogas plants;

                      (v)  composting plants; and

                     (vi)  petfood plants.

(4) Yn erthygl 14—

(a)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) But a veterinary inspector or an inspector acting under the direction of a veterinary inspector may licence the movement of any of the following bird by-products—

(a)   processed animal protein within the meaning of paragraph 5 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 1 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(b)  blood products within the meaning of paragraph 4 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph B of Section 2 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(c)   rendered fats within the meaning of paragraph 8 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph B of Section 3 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(d)  gelatine within the meaning of paragraph 12 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 5 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(e)   hydrolysed protein within the meaning of paragraph 14 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 5 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(f)   dicalcium phosphate which complies with the requirements of paragraph B of Section 6 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(g)  tricalcium phosphate which complies with the requirements of paragraph B of Section 7 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(h)  collagen within the meaning of paragraph 11 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 8 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(i)   egg products which comply with the requirements of paragraph B of Section 9 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(j)   processed pet food within the meaning of paragraph 20 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of Chapter II of Annex XIII to that Regulation;

(k)  raw petfood within the meaning of paragraph 21 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with Chapter II of Annex XIII;

(l)   dogchews within the meaning of paragraph 17 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of Chapter II of Annex XIII to that Regulation;

(m) processed manure and processed manure products which comply with the requirements of Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011;

(n)  game trophies having undergone a complete taxidermy treatment ensuring their preservation at ambient temperatures within the meaning of Chapter VI of Annex XIII to Regulation (EU) No. 142/2011;

(o)  those by-products which are transported to designated plants within article 3(6)(c) for disposal, treatment, transformation or use which ensures inactivation of the avian influenza virus;

(p)  those products which are transported to users or collection centres authorised and registered in accordance with Article 23 of Regulation (EU) No. 142/2011 for the feeding of animals after they have been treated by a method approved by the competent authority which ensures inactivation of the avian influenza virus;

(q)  untreated feathers or parts of untreated feathers produced from poultry within the meaning of paragraph 30 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph A of Chapter VII of Annex XIII to that Regulation;

(r)   poultry feathers, feathers from wild game birds or parts of such feathers which have been treated with a steam current or by another method which ensures inactivation of the avian influenza virus.;

(b)     yn lle paragraff (3), rhodder “No person is to move any bird by-product referred to in paragraph (2)(a) to (i) unless it has been processed at a processing plant in accordance with Regulation (EC) No. 1069/2009 and Annex IV to Regulation (EU) No. 142/2011;” ac

(c)     yn lle paragraff (4), rhodder “By-products from poultry referred to in paragraphs (2)(p) and (q), must be accompanied by the commercial document in accordance with Chapter III of Annex VIII to Regulation (EU) No. 142/2011.”

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006

4.—(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006([20]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2—

(a)     yn lle’r diffiniad o “bird by-product”, rhodder ““bird by-product” means entire bodies or parts of birds or products of avian origin, not intended for human consumption, included in Articles 8, 9 or 10 of Regulation (EC) No. 1069/2009;”;

(b)     ar ôl y diffiniad o “Regulation (EC) No. 853/2004” mewnosoder—

“Regulation (EC) No. 1069/2009” means Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and repealing Regulation (EC) No. 1774/2002 (Animal by-products Regulation);; ac

(c)     ar ôl y diffiniad a fewnosodir gan baragraff (b) mewnosoder—

“Regulation (EU) No. 142/2011” means Commission Regulation (EU) No. 142/2011 implementing Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and implementing Council Directive 97/78/EC as regards certain samples and items exempt from veterinary checks at the border under that Directive;.

(3) Yn erthygl 13(1), yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) the following plants if approved under Article 24 of Regulation (EC) No. 1069/2009—

                       (i)  incineration plants;

                      (ii)  co-incineration plants;

                     (iii)  processing plants;

                     (iv)  biogas plants;

                      (v)  composting plants;

                     (vi)  petfood plants.

(4) Yn Atodlen 1—

(a)     ym mharagraff 13, yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) A veterinary inspector may not grant or direct the grant of a licence under sub-paragraph (1) unless it is for a movement of—

(a)   processed animal protein within the meaning of paragraph 5 of Annex 1 to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 1 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(b)  blood products within the meaning of paragraph 4 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph B of Section 2 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(c)   rendered fats within the meaning of paragraph 8 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph B of Section 3 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(d)  gelatine within the meaning of paragraph 12 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 5 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(e)   hydrolysed protein within the meaning of paragraph 14 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 5 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(f)   dicalcium phosphate which complies with the requirements of paragraph B of Section 6 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(g)  tricalcium phosphate which complies with the requirements of paragraph B of Section 7 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(h)  collagen within the meaning of paragraph 11 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of paragraph B of Section 8 of Chapter II of Annex X to that Regulation;

(i)   egg products which comply with the requirements of paragraph B of Section 9 of Chapter II of Annex X to Regulation (EU) No. 142/2011;

(j)   processed pet food within the meaning of paragraph 20 of Annex 1 to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with the requirements of Chapter II of Annex XIII to that Regulation;

(k)  raw pet food within the meaning of paragraph 21 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which complies with Chapter II of Annex XIII;

(l)   dogchews within the meaning of paragraph 17 of Annex I to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of Chapter II of Annex XIII to that Regulation;

(m) processed manure and processed manure products which comply with the requirements of Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011;

(n)  game trophies having undergone a complete taxidermy treatment ensuring their preservation at ambient temperatures within the meaning of Chapter VI of Annex XIII to Regulation (EU) No. 142/2011;

(o)  those by-products which are transported to designated plants within article 13(1)(c), processing plants for disposal, treatment, transformation or use which ensures inactivation of the avian influenza virus;

(p)  those products which are transported to users or collection centres authorised and registered in accordance with Article 23 of Regulation (EU) No. 142/2011 for the feeding of animals after they have been treated by a method approved by the competent authority which ensures inactivation of the avian influenza virus;

(q)  untreated feathers or parts of untreated feathers produced from poultry within the meaning of paragraph 30 of Annex 1 to Regulation (EU) No. 142/2011 which comply with the requirements of paragraph A of Chapter VII of Annex XIII to that Regulation;

(r)   poultry feathers, feathers from wild game birds or parts of such feathers which have been treated with a steam current or by another method which ensures inactivation of the avian influenza virus;

(b)     yn lle paragraff 13(3), rhodder “A veterinary inspector may not grant or direct the grant of a licence under sub-paragraph (1) for the movement of the by-products listed in sub-paragraph (2)(a) to (i) unless they have also been processed at a processing plant which complies with the requirements of Regulation (EC) No. 1069/2009 and Annex IV to Regulation (EU) No. 142/2011”;

(c)     yn lle paragraff 13(5), rhodder “The bird by-products referred to in sub-paragraph (2)(p) and (q) must be accompanied by the commercial document in accordance with Chapter III of Annex VIII to Regulation (EU) No. 142/2011”;

(d)     yn lle paragraff 14(a), rhodder “the movement is to an establishment for treatment in accordance with Regulation (EC) No. 1069/2009 and Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011”;

(e)     yn lle paragraff 15(a), rhodder “it has been treated in accordance with Regulation (EC) No. 1069/2009 and Section 2 of Chapter I of Annex XI to Regulation (EU) No. 142/2011”.

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

5. Yn lle paragraff 3(3) o Atodlen 3 i Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007([21]), rhodder—

(3) Os nad yw Gweinidogion Cymru’n darparu pasbort o’r newydd yn lle’r hen un, rhaid peidio â symud yr anifail y mae’n ymwneud ag ef oddi ar ddaliad ac eithrio (o dan awdurdod trwydded a roddir gan Weinidogion Cymru)—

(a)   i safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24(1)(a), (b), (c) neu (h) o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor; neu

(b)  i ganolfan gasglu gofrestredig sy’n cydymffurfio ag Adran 1 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol (Swyddogaethau Rheoleiddiol) 2007

6. Yn Rhan 2 o’r Atodlen i Orchymyn Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol (Swyddogaethau Rheoleiddiol) 2007([22]), o dan y croesbennawd “animal health and welfare” ar ôl y cofnod “Animal By-Products (Enforcement) (England) Regulations 2013” mewnosoder “Animal By-Products (Enforcement) (Wales) Regulations 2014”.

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

7.—(1) Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008([23]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 882/2004” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No. 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid);.

(3) Yn lle rheoliad 4(2), rhodder “Os bydd farw neu os lleddir anifail buchol, dafad neu afr neu eu hepil a gedwir mewn mangre ymchwil a gymeradwywyd, rhaid i’r meddiannydd ei waredu fel sgil-gynnyrch anifail Categori 1 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd”. 

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010

8. Yn lle erthygl 8(2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010([24]), rhodder “Nid yw’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae’n ofynnol ei waredu o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor”.

Rheoliadau Hawlenni Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

9.—(1) Mae Rheoliadau Hawlenni Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010([25]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “the Animal By-Products Regulations”; a

(b)     ar ôl y diffiniad o “regulated facility” mewnosoder—

“Regulation (EC) No. 1069/2009” means Regulation (EC) No. 1069/2009 of the European Parliament and of the Council laying down health rules as regards animal by-products and derived products not intended for human consumption and repealing Regulation (EC) No. 1774/2002 (Animal by-products Regulation);.

(3) Yn Adran 6.8 o Bennod 6 o Atodlen 1, hepgorer paragraff 1(g) ac (i).

 



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.  51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

([2])           O.S. 2008/1792.

([3])           OJ Rhif L 54 26.2.2011, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 717/2013 (OJ Rhif L 201, 26.7.2013, t. 31).

([4])           2008 p. 32.

([5])           OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 1, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb Rhif 2010/63/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif 276, 20.10.2010, t. 33).

([6])           O.S. 2006/31 (Cy. 5) y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([7])           1925 p.  86. Diddymwyd is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55) adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, Rhan 2, paragraff 19; diddymwyd is-adran (4) yn rhannol gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p.  39) adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10

([8])           1980 p. 43. Diddymwyd paragraffau 2(a) a 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44); dirymwyd paragraff 2(a) gan adrannau 41, 332, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1), (13)(a) ac Atodlen 37, Rhan 4; dirymwyd paragraff 5 gan adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 o Atodlen 3 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 51(1) a (13)(b).

([9])           1984 p. 22.

([10])         O.S. 2006/31 (Cy. 5).

([11])         O.S. 2002/1472 (Cy. 146).

([12])         O.S. 2003/1849 (Cy. 199).

([13])         O.S. 2003/2754 (Cy. 265).

([14])         O.S. 2011/2377 (Cy. 250).

([15])         O.S. 1995/614.

([16])         O.S. 1997/2073.

([17])         O.S. 2006/179 (Cy. 30), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([18])         O.S. 2006/180 (Cy. 31), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([19])         O.S. 2006/3309 (Cy. 299), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([20])         O.S. 2006/3310 (Cy. 300), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([21])         O.S. 2007/842 (Cy. 74), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([22])         O.S. 2007/3544, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/2981; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([23])         O.S. 2008/3154 (Cy. 282), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([24])         O.S. 2010/900 (Cy. 93).

([25])         O.S. 2010/675 a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/2172, 2011/988 a 2013/390; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.